Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 26 Medi 2022 |
|
||||
Amser: |
10.30 - 11.35 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2022(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 11 Gorffennaf.
2 Strategaeth Rheoli Adnoddau
Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth yn argymell dull o reoli adnoddau yn dilyn yr ymarfer adolygu capasiti y gofynnwyd amdano, a ddaeth i ben dros yr haf.
Mae'r wybodaeth yn nodi heriau tymor canolig o ran adnoddau a phwysau costau y mae'n rhaid i'r Comisiwn eu rheoli; ac yn crynhoi opsiynau strategaeth rheoli adnoddau. Adlewyrchodd y Comisiynwyr fod gofynion o ran capasiti yn rhai allanol – yn ogystal â rhai sy’n cael eu cynllunio’n fewnol – ac na ellir eu rheoli bob amser, a thrafodwyd pwysigrwydd peidio â chreu pwysau gormodol ar staff.
Nododd y Comisiynwyr y tybiaethau cynllunio strategol a ganlyn:
· mae’n bosibl na fydd y twf o ran gofynion am adnoddau dros y tair blynedd nesaf yn cael ei gyllido'n llawn;
· rhaid sicrhau bod gofynion y Comisiwn am adnoddau dros y 3-4 blynedd nesaf (y cyfnod hyd at flwyddyn gyntaf y Seithfed Senedd, pan fydd effaith y cynigion presennol ar gyfer diwygio’r Senedd yn cael eu teimlo’n llawn) yn cael eu rheoli’n rhagweithiol;
· dylid sicrhau mai rheoli unrhyw dwf arfaethedig yn niferoedd staff y Comisiwn fydd y prif ddull o reoli’r pwysau ar adnoddau dros y cyfnod hwn, gan nodi y bydd y gallu i reoli costau cyfalaf gofynnol, pwysau chwyddiant a’r twf mewn gofynion costau sefydlog amrywiol yn gyfyngedig iawn fel arall; ac
· mae’n bosibl na fydd adnoddau ar gael ar gyfer y costau sefydlu ychwanegol posibl sy’n gysylltiedig â rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y tu hwnt i’r rhai a gyflwynwyd eisoes i’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai’r Bwrdd Gweithredol yn datblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig dros dair blynedd, ar gyfer y cyfnod o 2024-25 hyd at 2026-27, sy’n gosod ‘cap’ ar nifer staff cyffredinol y Comisiwn, yn ogystal â gofyniad i gydbwyso’r twf mewn refeniw rheoladwy gydag arbedion effeithlonrwydd cymesurol yn ystod y cyfnod o dair blynedd a gwmpesir gan y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, er mwyn ceisio mynd i’r afael â'r heriau sydd yn ein hwynebu o ran adnoddau. Dywedodd y Comisiynwyr na ddylai Diwygio’r Senedd fod ar draul gwasanaethau’r Comisiwn a ddarperir. Fe gytunon nhw i weld y cynllun drafft yn y gwanwyn.
At hynny, tynnodd y Comisiynwyr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â staff er mwyn iddynt deimlo’n hyderus y byddai’r broses yn gweithio.
3 Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24
Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft 2023-24 i’r Comisiynwyr a oedd yn tynnu sylw at newidiadau ers cyfarfod y Comisiwn ar 11 Gorffennaf 2022.
Bu’r Comisiynwyr yn ystyried goblygiadau’r cynnig i wrthdroi’r cynnydd dros dro o 1.25% yng nghyfraddau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o 6 Tachwedd 2022 a chanslo cyflwyno treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2023-24 i’w gosod gyda diwygiadau i adlewyrchu’r cynnig i ganslo cyflwyniad treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023. Roedd hynny’n golygu cynnydd o 5.06% yng nghyllideb weithredol y Comisiwn rhwng 2022-23 a 2023-24 (3.8% heb gynnwys Diwygio’r Senedd), a’r cynnydd yn y gyllideb gyffredinol o 4.06% rhwng 2022-23 a 2023-24; cyfanswm cyllideb o £67.642 miliwn.
At hynny, nododd y Comisiwn ddatganiad o egwyddorion (dim newid ers 2019) y Pwyllgor Cyllid, a’r llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
4 Cynghorwyr Annibynnol
Bu'r Comisiynwyr yn ystyried nifer o faterion yn ymwneud â'u Cynghorwyr Annibynnol. Fe wnaethon nhw gytuno i'r cylch gorchwyl diwygiedig i newid o Bwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) i Bwyllgor Taliadau.
Cytunodd y Comisiynwyr i gael argymhellion mewn perthynas â phenodi Cynghorwyr Annibynnol – gan gynnwys ar gyfer Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Taliadau – y tu allan i’r cyfarfod, ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben yn fuan. At hynny, fe wnaethant gytuno i ymestyn penodiad presennol Bob Evans fel Cynghorydd Annibynnol am ddwy flynedd ychwanegol, gan ddisgwyl y byddai'n parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
5 Diweddariad ynghylch COVID-19
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y fframwaith y cytunwyd arno gan y Bwrdd Gweithredol ar gyfer mesurau rheoli risg COVID-19, a fyddai’n caniatáu i’r sefydliad ymateb mewn ffordd ystwyth i unrhyw newidiadau yn y dyfodol i gyd-destun COVID-19. Gallai hyn gynnwys canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru neu newidiadau i gyfraddau achosion cymunedol, a byddai’n ffurfio rhan o baratoadau ar gyfer trefniadau parhad busnes wrth edrych tuag at dymor firysau’r gaeaf. Croesawodd y Comisiynwyr y lefelau da o wybodaeth a ddarparwyd i gydymffurfio â gofynion y Comisiwn ar gyfer presenoldeb ar y safle.
6 Llythyr diweddaru y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus / y Pwyllgor Cyllid
Cytunwyd ar lythyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y cynnydd mewn perthynas â phlastig untro a gwariant ar gyflenwyr o gwmnïau o Gymru.
7 Adolygiad interim o Gyflogau 2022
Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am yr Adolygiad Interim o Gyflogau – a gynhaliwyd fel y cynlluniwyd ym mis Mai a mis Mehefin eleni fel rhan o’r cytundeb presennol sydd ar waith hyd at 2025 – a chawsant eu hysbysu am Bleidlais ar Streic Genedlaethol ynghylch Cyflogau a oedd wedi agor, ac a fyddai'n cau ar 6 Tachwedd. Trafododd y Comisiynwyr yr amgylchedd presennol o ran cyflogau a chostau byw a gofyn am gael eu cadw i’r funud.
8 Papurau i'w nodi:
8.a Cynllun Pensiwn yr Aelodau – newid i fuddsoddiadau
Nododd y Comisiynwyr newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd, a wnaed gan y Bwrdd Pensiynau.
8.b Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
8.c Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 15 Mehefin
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a ddarperir i'r Comisiwn.
9 Unrhyw faterion eraill
Diolchodd Comisiynydd am yr holl waith a oedd wedi'i wneud i gyflawni'r trefniadau yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac ymweliad y Brenin Charles III â'r Senedd.